Pryf y cerrig Isogenus nubecula

©️ Chester Zoo

Mae prosiect pryf y cerrig Isogenus nubecula yn brosiect partneriaeth Buglife gyda Natur am Byth! Nod y prosiect yw deall statws presennol pryf y cerrig Isogenus nubecula yn afon Dyfrdwy yn well ac ennyn diddordeb aelodau’r cyhoedd ynghylch ei bwysigrwydd.

View more information

Ffeithiau cyflym:

  • Enw’r prosiect: Pryf y cerrig Isogenus nubecula (Natur am Byth!)
  • Hyd y prosiect: Rhagfyr 2023 – Tachwedd 2027
  • Lleoliad y prosiect: Wrecsam, y Gogledd-ddwyrain
  • Rhywogaethau sy’n elwa o’r prosiect: Pryf y cerrig Isogenus nubecula
  • Prosiect wedi’i ariannu gan: Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, a nifer o ymddiriedolaethau elusennol, sefydliadau a rhoddwyr corfforaethol, gan gynnwys yr Esmée Fairbairn Foundation, y Banister Charitable Trust, y Moondance Foundation a’r Building Wildlife Trust, ynghyd â chymorth sylweddol gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Partneriaid y prosiect: Buglife (arweinydd), Cyfoeth Naturiol Cymru

Beth fydd y prosiect yn ei wneud?

Mae gan bryf y cerrig Isogenus nubecula rôl allweddol, ond cudd yn bennaf, ym mywyd cymuned afon Dyfrdwy, sy’n cynnwys creaduriaid di-asgwrn-cefn eraill, pysgod, adar a physgotwyr ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’r pryf y cerrig hwn yn ysglyfaethwr rhywogaethau cynrhonaidd eraill, ond hefyd yn ysglyfaeth i’r gweddill i gyd, gan gynnwys nifer o anifeiliaid di-asgwrn-cefn afonol mwy a geir yn yr ardal. Gan mai anaml y gwelir y rhywogaeth hon a’i bod yn anodd ymchwilio iddi, mae llawer o agweddau ar ei bywyd nad ydym yn gwybod llawer amdanynt o hyd. Bydd y prosiect hwn yn cynnal arolygon yn yr afon ac ar hyd y glannau i ddarganfod beth yw’r boblogaeth bresennol ac yn asesu dulliau ar gyfer cofnodi’r rhywogaeth hon yn barhaus yn y dyfodol. Yn bwysig ddigon, rydym yn gobeithio cofnodi arsylwadau a fydd yn dweud mwy wrthym am y rhywogaeth hon sydd mewn perygl difrifol fel y gellir rhoi mesurau cadwraeth buddiol ar waith i gynorthwyo ei hadferiad.

Mae dwy elfen i’r prosiect hwn. Yn gyntaf, fe fydd Sŵ Caer a John Davy Bowker yn ein cynorthwyo i gynnal treialon bridio cadwraethol ac astudio’r DNA yng ngholofn ddŵr afon Dyfrdwy i’n helpu i ddod o hyd i boblogaethau newydd. Yn ychwanegol, byddwn yn defnyddio data hanesyddol ochr yn ochr â’r data a gasglwn ar ansawdd y dŵr a’r glannau i asesu safleoedd posibl lle gallai pryf y cerrig Isogenus nubecula ddychwelyd iddynt, neu lle efallai ei fod wedi goroesi heb i neb sylwi. Bydd astudiaethau wedi’u targedu o oedolion a larfâu yn ystod y prosiect yn ychwanegu at ein gwybodaeth a’n gallu i gyflawni’r canlyniad hwn.

Pryf y cerrig (Isogenus nubecula) mewn twb gyda dŵr yn ystod digwyddiad arolwg ar ei gyfer © Sarah Hawkes

Yr ail elfen yw gwahodd pobl i ymgysylltu â’r prosiect. Cymunedau lleol fydd y prif ffocws, ond gobeithiwn ymgysylltu â chymunedau cenedlaethol hefyd, gan gynnwys y rhai nad ydynt efallai’n ymwneud â byd natur yn eu bywydau bob dydd. Byddwn yn croesawu gwirfoddolwyr ac yn cynnig hyfforddiant i’n helpu i gofnodi a deall pryf y cerrig Isogenus nubecula yn well. Ar yr un pryd, byddwn yn cynnal digwyddiadau ar lan yr afon ac yn ymweld ag ysgolion a cholegau. Bydd y digwyddiadau hyn yn canolbwyntio ar archwilio amgylcheddau trwy ‘gelfyddyd sylwi’ ac yn defnyddio ecoleg, daeareg, hanes, barddoniaeth a chelf i sefydlu cysylltiadau â natur a fydd yn ein hysbrydoli ac o fudd i’n llesiant.

Sut gallwch chi gymryd rhan?

Gall cymunedau ac unigolion gymryd rhan ym mhrosiect pryf y cerrig Isogenus nubecula Buglife Cymru drwy gyfres o gyfleoedd, gan gynnwys digwyddiadau, gwirfoddoli, cofnodi rhywogaethau, a sesiynau eraill sy’n canolbwyntio ar wyddoniaeth dinasyddion.
I gael gwybod mwy am sut i gymryd rhan ym mhrosiect y pryf y cerrig hwn, edrychwch ar ein tudalen digwyddiadau neu cysylltwch â Sarah Hawkes (swyddog prosiect) ar Sarah.Hawkes@buglife.org.uk.

Tîm arolwg yng nghored Owrtyn © Sarah Hawkes

Ariennir prosiect pryf y cerrig Isogenus nubecula drwy Natur Am Byth! gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, a nifer o ymddiriedolaethau elusennol, sefydliadau a rhoddwyr corfforaethol, gan gynnwys yr Esmée Fairbairn Foundation, y Banister Charitable Trust, y Moondance Foundation, y Building Wildlife Trust, a chefnogaeth sylweddol gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Cyllidwyr: Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
Cyllidwyr: Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
Cyllidwyr: Llywodraeth Cymru
Cyllidwyr: Esmée Fairbairn Foundation
Cyllidwyr: Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru