Mae Prosiect Peillwyr Casnewydd yn brosiect newydd cyffrous fydd yn adfer a chreu cynefinoedd ar gyfer peillwyr a chyflwyno ystod eang o ddigwyddiadau ymgysylltu i ddathlu peillwyr ac annog cymunedau i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn ardaloedd gwyrdd Casnewydd.
Wedi ei ariannu gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (CCDGT) ac yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd a grwpiau cymunedol lleol, bydd y prosiect yn cyflwyno rhaglen o amrywiol weithgareddau yn cynnwys teithiau a sgyrsiau peillwyr, adnabod peillwyr, gweminarau hyfforddi a gweithdai celf, ffotograffiaeth a lles. Trwy wneud hyn byddwn yn cysylltu cymunedau Casnewydd gyda’u hardaloedd natur lleol, gan greu perthnasau mwy cyfeillgar gyda phryfetach, ac annog pobl i weithredu er mwyn atal dirywiad peillwyr. Byddwn hefyd yn ymgymryd â gwaith adfer cynefinoedd er mwyn creu rhwydweithiau ecolegol cryf yn cynnwys cynefinoedd newydd fel rhan o’n rhwydwaith B-lines a gwneud lle i infertebratau ffynnu. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar nifer o safleoedd yn cynnwys yr “Heol at Natur” sydd wedi ei hadfer yn ddiweddar, Y Twmps ger Allt-yr-yn, Canolfan Mileniwm Pillgwenlli a Gwarchodfa Natur Leol Sain Silian.