Cysylltiadau Sborion Glo

Cwm Tips © Liam Olds

Mae Cysylltiadau Sborion Glo yn brosiect partneriaeth Buglife sy’n anelu i ddeall yn well werth safleoedd sborion glo ar gyfer bioamrywiaeth ac i ymgysylltu ag aelodau o’r cyhoedd ynghylch pwysigrwydd y safleoedd hyn a’r buddiannau y gallant eu cynnig i bobl yn ogystal â bywyd gwyllt.

View more information

Ffeithiau Cryno:

  • Enw’r Prosiect: Cysylltiadau Sborion Glo
  • Hyd y Prosiect: Ebrill 2024 – Rhagfyr 2025
  • Lleoliad y Prosiect: Cymru – Ar draws tair sir Rhondda Cynon Taf, Caerffili a Blaenau Gwent
  • Rhywogaethau fydd yn elwa o’r Prosiect: Mae rhywogaethau allweddol y prosiect Cysylltiadau Sborion Glo yn cynnwys Anghenfil y Maerdy (Turdulisoma cf helenreadae), y wenynen durio Andrena tarsataGweirlöyn Llwyd (Hipparchia semele), Gwibiwr Llwyd (Erynnis tages), Britheg Berlog Fach (Boloria selene), Bwystfil y Beddau (Cranogona dalensi).
  • Ariennir y prosiect gan: Cronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Beth fydd y prosiect yn ei wneud?

Bydd Cysylltiadau Sborion Glo, fel y mae’r enw’n awgrymu, yn cysylltu cymunedau gyda’u safleoedd sborion glo lleol. Rydym yn gobeithio newid y safbwyntiau negyddol traddodiadol sydd gan bobl am y safleoedd hyn a hybu’r buddiannau y gall sborion glo eu cynnig i bobl yn ogystal â bywyd gwyllt. Bydd digwyddiadau ymgysylltu cymunedol yn annog pobl, yn enwedig y rheini sydd efallai ddim yn ymgysylltu â natur, i archwilio safleoedd sborion glo trwy ecoleg, daeareg, hanes a chelf lleol.

Rydym hefyd yn awyddus i ddeall yn well werth bioamrywiaeth safleoedd sborion glo a thrwy gydol y prosiect hwn, byddwn yn gweithio i ehangu ar ddata cynefinoedd a rhywogaethau safleoedd sborion glo sy’n bodoli eisoes. Gyda’r wybodaeth yma, gallwn wella amodau cynefinoedd trwy dystio i’r angen am warchodaeth gyfreithiol a sicrhau eu bod yn cael eu rheoli’n briodol. Bydd hyn, yn ei dro, yn cefnogi adferiad a chadernid natur trwy rwydwaith safleoedd gwarchodedig ehangach Cymru.

Anghenfil y Maerdy (Turdulisoma cf helenreadae) © Liam Olds

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae o leiaf 15 o rywogaethau newydd (y mae’r mwyafrif ohonynt yn infertebratau, ond sydd hefyd yn cynnwys rhywfaint o ffyngau) wedi eu darganfod ar safleoedd sborion glo yn Ne Cymru sy’n gwbl newydd i Gymru. Yn ogystal, mae tair o’r rhywogaethau hyn yn newydd i’r DU ac mae dwy ohonynt yn gwbl newydd i wyddoniaeth, sy’n gwneud gwarchod a deall y safleoedd hyn hyd yn oed yn fwy hanfodol.

Mae rhywogaethau allweddol ar gyfer y prosiect Cysylltiadau Sborion Glo yn cynnwys Anghenfil y Maerdy (Turdulisoma cf helenreadae), y wenynen durio Andrena tarsataGweirlöyn Llwyd (Hipparchia semele), Gwibiwr Llwyd (Erynnis tages), Britheg Berlog Fach (Boloria selene), Bwystfil y Beddau (Cranogona dalensi).

 

Gweirlöyn Llwyd (Hipparchia semele) © Iain H Leach

Sut allwch chi ymuno â ni?

Gall cymunedau ymuno â phrosiect Cysylltiadau Sborion Glo Buglife Cymru trwy gyfres o gyfleoedd, yn cynnwys digwyddiadau, gwirfoddoli i reoli cynefinoedd, cofnodi rhywogaethau, a sesiynau eraill â ffocws gwyddoniaeth dinasyddion.

I ddysgu mwy am sut i ymuno â’n prosiect Cysylltiadau Sborion Glo, ewch i’n tudalen digwyddiadau neu cysylltwch â Carys Romney (Swyddog Cadwraeth) ar [email protected].

Ariennir y Prosiect Cysylltiadau Sborion Glo gan Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.