Chwilio am Glafrllys

(c) Liam Olds

Mae ymchwil wedi dangos bod niferoedd llawer o bryfed peillio wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf, gyda niferoedd gwenyn gwyllt (cacwn a gwenyn unig) yn arddangos y dirywiad gwaethaf o blith holl beillwyr y DU. Er mwyn gallu atal dirywiadau pellach a difodiant yn effeithlon ymysg gwenyn gwyllt, ac er mwyn adfer poblogaethau cynaliadwy yng nghefn gwlad Cymru, mae angen data manylach ar ddosbarthiad a statws cadwraethol ein rhywogaethau.

Mae’r prosiect Chwilio am Glafrllys, a ariennir gan The People’s Postcode Lottery, yn anelu i wella ein dealltwriaeth am ddosbarthiad a statws cadwraethol rhai o wenyn unig prinnaf Cymru a’r rhai sydd dan fwyaf o fygythiad – sef Gwenynen Durio Fawr y Clafrllys (Andrena hattorfiana) a’i chwcw gysylltiedig, y Wenynen Grwydrol Arfog (Nomada armata), a Gwenynen Durio Fechan y Clafrllys (Andrena marginata) a’i chwcw, a’r Wenynen Grwydrol Ymyl Arian (Nomada argentata). Mae’r rhywogaethau hyn, sydd i gyd yn gysylltiedig â chynefinoedd llawn clafrllys, wedi dirywio un ai o ganlyniad i golli glaswelltiroedd addas sy’n cynnal eu planhigion bwyd, neu o ganlyniad i reolaeth wael o laswelltiroedd (e.e. gorbori, amseru gwael torri glaswellt).

Hoffech chi wybod mwy am wenyn unig yng Nghymru? Fel rhan o’n prosiect rydym wedi bod yn cynnal gweithdai adnabod gwenyn ar-lein, cliciwch ar y fideo uchod i gymryd rhan.

Small Scabious Mining Bee (Andrena marginata) © Liam Olds

Bydd y prosiect Chwilio am Glafrllys yn rhedeg o 1af Gorffennaf 2020 tan 31ain Tachwedd 2020. Trwy gydol y prosiect, cynhelir arolygon wedi eu targedu ar safleoedd hysbys a hanesyddol ar gyfer y gwenyn hyn ar draws de Cymru, yn ogystal ag ar safleoedd sy’n cynnig cynefinoedd addas. Bydd hyn yn sicrhau bod gennym gofnodion rhywogaethau a data dosbarthiad wedi eu diweddaru i hysbysu rheolaeth ar lawr gwlad a gwella rhagolygon y gwenyn gwyllt hyn sydd dan fygythiad. Yn ogystal, bydd gweithdai hyfforddi’n darparu gwirfoddolwyr gyda’r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder i ddynodi’r gwenyn hyn, gan ddod â nhw’n nes at fyd natur ar riniog eu drws wrth wneud cyfraniad gwerthfawr i warchod rhywogaethau. Bydd cyngor rheoli cynefinoedd a roddir i berchenogion tir yn helpu i wella’r dirwedd ymhellach ar gyfer y gwenyn prin hyn, gan helpu i adfer a chysylltu cynefinoedd, gan chwyddo poblogaethau.

Help us to stop the extinction of invertebrate species

Become a member

Join a community of invertebrate champions and access exclusive member benefits from just £3 a month, all whilst supporting our vital conservation work.

Membership

Donate to support us

Every contribution helps us to save the small things that run the planet by restoring vital habitats and rebuilding strong invertebrate populations in the UK.

Make a donation today

Engage with our work

Stay up to date with our work and help spread the word by following us on our socials and signing up to our monthly BugBytes email newsletter.