Ardaloedd Infertebratau Pwysig (AIP) yw’r mannau gorau ym Mhrydain Fawr ar gyfer ein hinfertebratau, sydd wedi eu dynodi gan ddefnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael o dros 80 o gynlluniau cofnodi arbenigol cenedlaethol. Maent yn cynnal rhai o’n rhywogaethau prinnaf ac sydd dan fwyaf o fygythiad, cynefinoedd bregus a chasgliadau unigryw o infertebratau
Tirweddau AIP
Mae ambell AIP yn cwmpasu tirweddau eang, yn cynnal ystod amrywiol o gynefinoedd ac yn gartref i restrau sylweddol o infertebratau sy’n brin yn genedlaethol. Mae pob un o’r AIP hyn yn unigryw, gyda’i chasgliadau ei hun ond hefyd ei chyfres ei hun o fygythiadau a heriau.
Agorwch yr astudiaethau achos isod i archwilio rhai o’n AIP Tirwedd
Arfordir De Cymru
Mae AIP Arfordir De Cymru yn cwmpasu 251km sgwâr o Gastell-nedd yn y gorllewin i Gasnewydd yn y dwyrain ac mae’n gartref i 90 o rywogaethau cymwys AIP.
Mae’r AIP arfordirol hon yn cynnwys amrywiaeth cyfoethog o gynefinoedd yn cynnwys systemau twyni tywod, glaswelltiroedd amrywiol, cynefinoedd tir llwyd llawn blodau, morfa heli a phrysgwydd ymysg llu o rai eraill. Mae’r dirwedd amrywiol hon yn golygu ei bod yn meddu ar boblogaethau o’r Fritheg Frown (Argynnis adippe), Chwilen Traethlin (Eurynebria complanata), Gele Feddyginiaethol (Hirudo medicinalis), Corryn Rafftio’r Ffen (Dolomedes plantarius) a’r Chwilen Ddaear (Carabus intricatus) i enwi ond rhai. Mae hyn i gyd o fewn un o ardaloedd mwyaf poblog Cymru, sydd â hanes o ddiwydiant trwm a gweithgarwch amaethyddol dwys.
Er bod llawer o’r morlin yn elwa o ddynodiadau cenedlaethol a rhyngwladol, fel adran fwyaf gorllewinol Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Gwastadeddau Gwent, Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Cynffig a SoDdGA Merthyr Mawr, mae dros 80% o’r AIP cyfan yn dal heb ei warchod. Mae hyn yn cynnwys tir nas dynodwyd ger gwaith dur Port Talbot a llawer o dir sy’n amgylchynu Pen-y-bont ar Ogwr a grŵp SoDdGA Cefn Cribwr. Mae llawer o hwn ond wedi ei ddynodi fel Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol felly nid oes ganddynt warchodaeth statudol, neu’n waeth fyth, dir llwyd sydd mewn perygl cyson o gael ei golli i’w ddatblygu.
Aber Dornoch
Mae AIP Aber Dornoch yn yr Alban wedi ei diogelu gan gyfres o ddynodiadau cenedlaethol a rhyngwladol, yn cynnwys Ardal Warchodaeth Arbennig (SPA) Aber Dornoch a Loch Fleet ar draws llawer o’r arfordir.
Mae’n cynnal brithwaith cyfoethog o forfa heli, twyni tywod, llaciau twyni, glaswelltiroedd twyni a gwlypdiroedd a geir ar hyd arfordir dwyreiniol Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Aber Dornoch a Morrich More a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Aber Dornoch, a SoDdGA Loch Fleet ar yr arfordir dwyreiniol i’r gogledd o Embo. Mae’r gymhlethfa hon o safleoedd gwarchodedig yn gartref i Bryf Hadau Ffonseca (Botanophila fonsecai), sy’n endemig ac Mewn Perygl yn Fyd-eang, a chasgliad cenedlaethol pwysig sy’n cynnwys y gwyfyn Pigmi Rhosyn (Stigmella spinosissimae), y Daearwyfyn Black Isle (Caryocolum blandelloides) a Chwilen Gorniog y Tywod (Orthocerus clavicornis).
Gorwedd ACA / SoDdGA Mound Alderwoods wrth drwyn Loch Fleet ac mae’n cynnal y gelli fwyaf o goetir Gwern sy’n tyfu o amgylch moryd ym Mhrydain, gyda choetir gwlyb trwchus, ffen agored a lagwnau lled hallt a phoblogaethau o’r Britheg Berlog (Boloria euphrosyne). Mae hydoedd isaf ACA Afon Evelix yn cwblhau’r AIP, sy’n cynnal yr unig boblogaeth fechan afonol sydd ar ôl ar arfordir y dwyrain o Fisglen Berlog yr Afon (Margaritifera margaritifera), sydd mewn Perygl Difrifol yn y DU / Ewrop.
Er gwaethaf y diddordeb neilltuol yma, mae safleoedd allweddol yn AIP Aber Dornoch yn dal i fod dan fygythiad oherwydd datblygu’r arfordir yn ogystal â newid yn yr hinsawdd.
Arfordir De Dyfnaint
Mae AIP Arfordir De Dyfnaint yn gartref i rywogaethau a chynefinoedd gwirioneddol arbennig.
Mae’r rhwydwaith o glogwyni arfordirol craig galed a meddal, llethrau, a glaswelltiroedd pen clogwyn yn cynnal casgliad o infertebratau o bwys cenedlaethol, sy’n bennaf o fewn safleoedd arfordirol gwarchodedig o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Bolt Head i Bolt Tail i SoDdGA Hallsands-Beesands. Mae’r cynefinoedd hyn yn cynnal y Wenynen Grwydrol Chwe Rhesog (Nomada sexfasciata) – gwenynen brinnaf Prydain sydd bellach ond i’w chanfod ar Prawle Point, Chwilen Olew y Canoldir (Meloe mediterraneus), a Phryf Llofrudd Coesgoch Dyfnaint (Neomochtherus pallipes), sydd Mewn Perygl Difrifol.
Mae’r AIP amrywiol hon yn cynnwys brithwaith cynefin arfordirol SoDdGA Slapton Ley, aberoedd a glaswelltiroedd a gweundir mewndirol pwysig fel SoDdGA Pebblebed Heaths Dwyrain Dyfnaint, sydd i gyd â’u casgliad eu hunain o infertebratau. Mae De Dyfnaint hefyd yn gartref i ddwy rywogaeth endemig. Mae’r dyffrynnoedd afon coediog yn hafan ar gyfer y Filtroed (Anthogona Britannica) sy’n endemig i Brydain – sydd ond i’w chanfod yn Ne Dyfnaint, ac mae rhwydwaith ogofâu, dyfrhaenau a ffynhonnau’r AIP yn cynnal Perdysen yr Ogofâu (Niphargus glenniei) sy’n endemig i Brydain.
Fodd bynnag, er gwaethaf maint y dirwedd ddynodedig, mae llawer o’r ardaloedd o ddiddordeb arbennig hyn yn dal i fod mewn perygl. Mae amddiffynfeydd clogwyni ac arfordirol wedi ymyrryd â phrosesau naturiol, dynamig tirwedd y clogwyni sydd, wedi ei gyplysu â cholli glaswelltir pen clogwyni’n llawn blodau, yn arwain at wasgu cynefinoedd addas. Mae defnydd tir gwahanol yn cystadlu gyda bywyd gwyllt am le, yn cynnwys amaethyddiaeth ddwys, a chyrchfannau twristiaid fel parciau carafanau a chyrsiau golff. Ar draws yr AIP, mae’r dirwedd wedi colli brithweithiau cynefin amrywiol y mae llawer o infertebratau eu hangen.
Mae Buglife yn rhan o brosiect partneriaeth Life on the Edge, gaiff ei arwain gan AHNE De Dyfnaint, sy’n anelu i wella hydoedd o’r morlin hwn o fewn yr AIP ar gyfer rhai o’i infertebratau arbennig, yn cynnwys y Wenynen Grwydrol Chwe Rhesog. Bydd y prosiect yn adfer glaswelltiroedd pen clogwyni llawn blodau gwyllt, yn rheoli brithweithiau glaswelltir-prysgwydd yn well ac yn gweithio gyda thirfeddianwyr i reoli cynefinoedd llawn blodau gwyllt yn well trwy adran ddeheuol yr AIP.
This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.
3rd Party Cookies
This website uses Google Analytics to collect anonymous information such as the number of visitors to the site, and the most popular pages.
Keeping this cookie enabled helps us to improve our website.
Please enable Strictly Necessary Cookies first so that we can save your preferences!