Ardaloedd Infertebratau Pwysig (AIP) yw’r mannau gorau ym Mhrydain Fawr ar gyfer ein hinfertebratau, sydd wedi eu dynodi gan ddefnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael o dros 80 o gynlluniau cofnodi arbenigol cenedlaethol. Maent yn cynnal rhai o’n rhywogaethau prinnaf ac sydd dan fwyaf o fygythiad, cynefinoedd bregus a chasgliadau unigryw o infertebratau
Dethol a Mapio AIP
Datblygwyd y criteria ar gyfer AIP gan grŵp o arbenigwyr infertebratau, data a chofnodi. Mapiwyd y rhwydwaith AIP cenedlaethol drwy ddefnyddio cyfoeth o ddata gan y cynlluniau cofnodi infertebratau cenedlaethol – dros 45 miliwn o gofnodion o 80 o gynlluniau.
Ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban, dynodwyd hectadau (sgwariau 10km x 10km) fel AIP am un ai gynnal un o’n rhywogaethau prinnaf ac sydd dan fwyaf o fygythiad, sy’n golygu bod cyfrifoldeb arbennig i weithredu a’u gwarchod, neu am gynnal casgliad o bwys cenedlaethol o rywogaethau prin neu sydd dan fygythiad. Dynodwyd rhywogaethau a ystyriwyd ar gyfer mapio AIP gan ddefnyddio’r meini prawf canlynol: