Ardaloedd Infertebratau Pwysig (AIP) yw’r mannau gorau ym Mhrydain Fawr ar gyfer ein hinfertebratau, sydd wedi eu dynodi gan ddefnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael o dros 80 o gynlluniau cofnodi arbenigol cenedlaethol. Maent yn cynnal rhai o’n rhywogaethau prinnaf ac sydd dan fwyaf o fygythiad, cynefinoedd bregus a chasgliadau unigryw o infertebratau
Cefnogi Cadwraeth Infertebratau
Gall cefnogi adferiad infertebratau fod yn gymhleth – ceir amrywiaeth aruthrol o rywogaethau, sydd i gyd â gwahanol fywydau, gwahanol anghenion ecolegol, a gwahanol wasgariadau.
Un o nodau’r rhaglen AIP yw gwneud hyn yn haws – i gymryd gwybodaeth dechnegol gymhleth a’i throsi a’i phuro i fformat sy’n hygyrch a defnyddiol. Bydd hyn yn sicrhau bod ecolegwyr, cynllunwyr, awdurdodau lleol, cyrff statudol, sefydliadau cadwraeth, rheolwyr tiroedd a llunwyr penderfyniadau eraill yn gallu deall yn well bwysigrwydd safleoedd unigol a thirweddau cyfan ar gyfer infertebratau, a gwneud penderfyniadau sydd wedi’u hysbysu’n well i gefnogi adferiad natur.