Ardaloedd Infertebratau Pwysig (AIP) yw’r mannau gorau ym Mhrydain Fawr ar gyfer ein hinfertebratau, sydd wedi eu dynodi gan ddefnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael o dros 80 o gynlluniau cofnodi arbenigol cenedlaethol. Maent yn cynnal rhai o’n rhywogaethau prinnaf ac sydd dan fwyaf o fygythiad, cynefinoedd bregus a chasgliadau unigryw o infertebratau.
Mae ein gwaith ar AIP yn anelu i wneud gwybodaeth gymhleth ar infertebratau’n ddealladwy, yn ddefnyddiol, ac yn hygyrch. Bydd hyn yn sicrhau bod pawb yn gallu deall yn well y cynefinoedd a’r tirweddau allweddol ar gyfer infertebratau a helpu i wneud penderfyniadau gwell ar gyfer eu dyfodol – waeth os ydynt yn aelodau o’r cyhoedd, yn ecolegwyr, cynllunwyr, awdurdodau lleol, cyrff statudol, sefydliadau cadwraeth, rheolwyr tir neu lunwyr penderfyniadau eraill.
Mae AIP yn adnodd hanfodol all gyfarwyddo a blaenoriaethu ymdrechion cadwraeth ar gyfer infertebratau a sicrhau bod penderfyniadau gwell yn cael eu gwneud er mwyn ein helpu i adfer natur. Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio y gall cynefinoedd y tu allan i’r AIP ddal fod yn gartref i infertebratau prin ac sydd dan fygythiad, yn cynnwys blaenoriaethau cadwraeth.
Mae’r tudalennau gwe hyn yn amlinellu sut y dynodwyd yr AIP a’u mapio yn ogystal â’r penderfyniadau a wnaethpwyd wrth ddethol rhywogaethau. Maent hefyd yn archwilio astudiaethau achos AIP a sut y defnyddir AIP i gefnogi a blaenoriaethu cadwraeth infertebratau i’r dyfodol.