Ardaloedd Infertebratau Pwysig

Y Mynyddoedd Duon, Talgarth © Les Haines (CC BY 2.0)

 Ardaloedd Infertebratau Pwysig  Am AIP Dethol a Mapio AIP Cefnogi Cadwraeth Infertebratau AIP a Chynllunio   Tirweddau AIP  AIP Rhywogaethau Unigol  Defnyddio Mapiau a Phroffiliau AIP Cwestiynau Cyffredin  Darparwyr data AIP   Llyfrgell Ddogfennau AIP 

Mae Ardaloedd Infertebratau Pwysig (AIP) yn fannau sy’n gartref i boblogaethau o infertebratau sydd o bwys cenedlaethol neu ryngwladol a’u cynefinoedd. Maent yn cynnwys rhywogaethau amrywiol o chwilod a gwyfynod i berdys dŵr croyw a gwrachod lludw, a chynefinoedd o’r draethlin, ar hyd afonydd ac i’r ucheldiroedd. (view this page in English)

Mae Prydain Fawr yn gartref i dros 40,000 o rywogaethau o infertebratau. Maent yn hanfodol ar gyfer ein bywydau, ac yn sail ar gyfer y gwasanaethau ecosystem sy’n darparu bwyd inni, priddoedd ffrwythlon a dŵr glân, a’r cynefinoedd llawn bywyd gwyllt yr ydym i gyd yn eu mwynhau. Fodd bynnag, mae llawer o infertebratau’n dirywio, gan ei gwneud yn bwysicach nag erioed i alluogi poblogaethau cynaliadwy o infertebratau ac atal eu difodiant. Er mwyn sicrhau dyfodol gwell ar gyfer ein poblogaethau o infertebratau, mae’n hanfodol inni wybod ble mae ein rhywogaethau a’u casgliadau sydd o dan fwyaf o fygythiad yn byw. Rydym angen Ardaloedd Infertebratau Pwysig.

Mae dros 100 o AIP yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, o’r Ynys Wair fechan a Phen y Gogarth, i dirweddau adnabyddus eang fel Eryri, y Twyni Deheuol yn Ne Lloegr, a’r Cairngorms yn Yr Alban. Maent i gyd yn gartrefi i rywogaethau neu gasgliadau o rywogaethau arbennig. Maent yn haeddu cael eu gwarchod a’u rheoli yn y ffordd gywir er mwyn caniatáu i’w cyfoeth o fywyd gwyllt oroesi a ffynnu.

Beth am archwilio’r map AIP isod i weld pa AIP sy’n agos atoch chi? Bydd chwyddo’r map yn arddangos pob AIP yr ydym wedi’u mapio’n fanwl eisoes. Trwy glicio ar AIP gallwch lawrlwytho’r map a phroffil yr AIP fydd yn dweud mwy wrthych am ei rhywogaethau, ei chynefinoedd a’i bygythiadau, os yw’r ddogfen wedi’i chwblhau eisoes. (Sylwer: os ydych yn dal i weld sgwariau, yna mae manylion manaf yr AIP yn dal i’w mapio.)

Hyd yma, rydym wedi mapio 60 o’n AIP yn fanwl, ac mae proffiliau newydd yn cael eu lanlwytho’n rheolaidd. Dros y blynyddoedd nesaf bydd rhwydwaith cyflawn o fapiau a phroffiliau ar gael, felly cofiwch alw’n ôl am ddiweddariadau’n rheolaidd.

(Oherwydd swm y data sydd wedi’i gynnwys yn y map gall gymryd peth amser i lwytho’n iawn, byddwch yn amyneddgar gydag unrhyw oedi)

Mae’r mapiau AIP, Shapefiles, ffeiliau .kmz a’r allbynnau cysylltiedig wedi’u trwyddedu at ddefnydd gan Buglife o dan Creative Commons: Creative Commons Attribution CC-BY4.

Mae’r Ardaloedd Infertebratau Pwysig wedi’u hariannu gan Ymddiriedolaeth Esmée FairbairnYmddiriedolaeth Leol y People’s Postcode LotteryBig Give’s Green Match Fund a Natural England ac ni fyddent yn bosibl heb arbenigedd a chymorth parhaus y cynlluniau cofnodi cenedlaethol.

Help us to stop the extinction of invertebrate species

Become a member

Join a community of invertebrate champions and access exclusive member benefits from just £3 a month, all whilst supporting our vital conservation work.

Membership

Donate to support us

Every contribution helps us to save the small things that run the planet by restoring vital habitats and rebuilding strong invertebrate populations in the UK.

Make a donation today

Engage with our work

Stay up to date with our work and help spread the word by following us on our socials and signing up to our monthly BugBytes email newsletter.