Ymwelodd Pencampwraig Rhywogaeth cyntaf Buglife Cymru, Rebecca Evans AC, â Phenrhyn Gŵyr yr wythnos diwethaf i chwilio am y Chwilen olew ddu.
Mae menter Pencampwyr Rhywogaethau Cyswllt Amgylchedd Cymru yn gofyn i Aelodau Cynulliad gynnig cefnogaeth wleidyddol i warchod bywyd gwyllt neilltuol Cymru sydd dan fygythiad trwy ddod yn ‘Bencampwyr Rhywogaethau’. Mae’r prosiect yn anelu i dynnu sylw at amrywiaeth anhygoel natur yng Nghymru, a bydd yn helpu i sicrhau bod Cymru’n cyflawni’r uchelgeisiau a geir yn Neddf Yr Amgylchedd (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Cychwynnodd y diwrnod gyda chyflwyniad byr ar ecoleg y chwilen olew a sut i’w hadnabod, cyn mynd am dro ar hyd llwybr arfordir Cymru yn ne Penrhyn Gŵyr. Ymunodd aelodau o staff a gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol â ni ynghyd ag entomolegwyr lleol.
Meddai Rebecca: “Mae dysgu mwy am gylch bywyd dyrys y Chwilen olew ddu yn pwysleisio pwysigrwydd cynefinoedd llawn blodau gwyllt cysylltiedig, y mae enghreifftiau gwych ohonynt i’w cael yma ar Benrhyn Gŵyr. Mae’n bleser mawr cael bod yn Bencampwraig Rhywogaeth dros y Chwilen olew ddu, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Buglife Cymru i gefnogi cadwraeth y chwilen unigryw yma.”
Dywedodd Clare Dinham, Buglife Cymru: “Er na ddaethon ni ar draws unrhyw Chwilod olew du ar y diwrnod, roedd yn gyfle gwych i dreulio amser gyda’n Pencampwraig Rhywogaeth a phwysleisio pwysigrwydd cynefinoedd llawn blodau gwyllt cysylltiedig y mae’r chwilod olew a’u rhywogaeth letyol, gwenyn unig, yn dibynnu arnynt. Ond fe wnaethon ni ddod ar draws llawer o fywyd gwyllt arall ar lwybr yr arfordir, yn cynnwys y Chwilen trwyn gwaedlyd y gellir ei chamgymryd weithiau am y chwilen olew.”
Lansiodd Buglife Cymru ei Arolwg ar Chwilod Olew yng Nghymru yn gynharach yn y gwanwyn. Am fwy o wybodaeth, ymwelwch