Partneriaeth rhwng Buglife Cymru a Phrifysgol Wrecsam i roi sylw i bryf y cerrig sydd mewn perygl trwy gelf

Thursday 3rd April 2025

Mae Buglife ac Ysgol Gelf Prifysgol Wrecsam wedi lansio prosiect cydweithredol arloesol, “Ecoleg a Chelf Ar Waith”, sy’n pontio gwyddoniaeth a chelf i godi ymwybyddiaeth am y pryfyn cerrig Isogenus nubecula sydd mewn perygl difrifol.

Mae’r bartneriaeth, dan arweiniad Sarah Hawkes, Swyddog Cadwraeth Isogenus nubecula Natur am Byth, ac Ali Roscoe, Uwch Ddarlithydd mewn Celfyddyd Gain ac Arweinydd Rhaglen BA (Anrh) Celfyddyd Gain ac MA Paentio ym Mhrifysgol Wrecsam, yn ymgysylltu â myfyrwyr BA Celfyddyd Gain ac MA Celf a Dylunio i archwilio cylch bywyd unigryw’r pryfyn prin hwn—nad yw’n byw yn unrhyw le yn y DU heblaw am Afon Dyfrdwy yn Sir Wrecsam.

Mae myfyrwyr yn datblygu gweithiau creadigol sy’n archwilio cwestiynau hynod ddiddorol am fywyd creaduriaid di-asgwrn-cefn, megis y newid o fyw yn y dŵr i fyw ar y ddaear. Penllanw eu prosiectau fydd arddangosfa gyhoeddus yn gynnar yn 2027, a fydd yn dod â chadwraeth infertebratau i gynulleidfaoedd newydd trwy ddehongli artistig.

Mae’r myfyrwyr yn barod yn cynhyrchu syniadau ysbrydoledig sy’n edrych ar fioamrywiaeth trwy lens wahanol,meddai Sarah.Bydd yn braf gweld sut y gall y dull amlddisgyblaethol hwn amlygu pwysigrwydd y creaduriaid hyn sy’n aml yn cael eu hanwybyddu.

Mae taith maes i Afon Dyfrdwy wedi’i chynllunio ar gyfer diwedd mis Ebrill neu fis Mai, gan roi cyfle i fyfyrwyr weld y pryfed cerrig hyn yn ystod y cyfnod byr pan fyddant yn ymddangos.

Mae’r bartneriaeth yn un o nifer o weithgareddau sy’n cael eu cynnal ledled Cymru fel rhan o Natur am Byth; rhaglen gadwraeth flaenllaw Cymru. Bydd y rhaglen, sy’n bartneriaeth rhwng naw elusen amgylcheddol a Cyfoeth Naturiol Cymru, yn gweithredu dros rywogaethau sydd mewn perygl, yn meithrin cysylltiadau â chymunedau Cymru a’u treftadaeth naturiol tra’n hybu ymrwymiad i ddiogelu bioamrywiaeth Cymru drwy ymgysylltu’n flaengar â’r cyhoedd.


Main Image Credit: Male Scarce Yellow Sally (Isogenus nubecula) © Will Hawkes