Ymunwch â’r Helfa am Chwilod Olew Anhygoel yng Nghymru!
Rydym angen eich cymorth i gynyddu ein cofnodion am chwilod olew yng Nghymru.
Mae helfa chwilod olew Buglife ar draws y DU, sydd bellach yn ei phumed flwyddyn, yn ein helpu i ddeall a gwarchod y pryfed trawiadol a diddorol yma. Mae eu cyrff mawr du, gloyw â sglein glas neu borffor, eu abdomen hir, tew a’u cloradain nychlyd yn golygu eu bod bron yn anorfod y byddwch yn eu hadnabod wrth iddynt ymlwybro ar hyd y llawr.
Mae gennym bum rhywogaeth o chwilod olew yn y DU, a cheir hyd i dair o’r rhain yma yng Nghymru.
Nawr yw’r amser delfrydol i chwilio am y Chwilen Olew Ddu (Meloe proscarabaeus), y Chwilen Olew Borffor (Meloe violaceus) yn ogystal â’r Chwilen Olew Arw (Meloe rugosus) prinnach. Cadwch lygad ar y llwybrau troed pan fyddwch yn cerdded trwy gaeau, rhostir, ardaloedd arfordirol neu goetiroedd, ble y dewch ar eu traws yn chwilio am gymar a safleoedd i nythu, ac yn bwydo ar flodau ar hyd ymylon llwybrau.
Os dewch o hyd i chwilen olew, tynnwch luniau ohoni uwch ei phen sy’n dangos top y thoracs (canol y corff) yn glir er mwyn enwi’r rhywogaeth trwy ddefnyddio ein canllaw adnabod ar-lein. Yna, cyflwynwch eich cofnod gan ddefnyddio’r ffurflen gofnodi ar ein gwefan. Gallwch gyflwyno cofnod hyd yn oed os nad ydych yn gwybod y rhywogaeth.
Bydd eich cofnodion chwilod olew yn ein helpu i dargedu ein hymdrechion cadwraeth i warchod poblogaethau pwysig o’r chwilod a’r gwenyn y maent yn dibynnu arnynt. Maent hefyd yn ein helpu i wneud darganfyddiadau arloesol. Mae’r prosiect eisoes wedi arwain at ganfod llawer o safleoedd newydd ar gyfer chwilod olew ac ailddarganfod y Chwilen Olew Ganoldirol (Meloe mediterraneus) yn ne Lloegr, a ninnau wedi meddwl ei bod wedi diflannu o’r DU! Pa rywogaeth wnewch chi ei darganfod yng Nghymru?
Meddai Clare Dinham, Swyddog Cadwraeth Buglife Cymru: “Mae’r Chwilod Olew wedi cael dwy ergyd drom yn ddiweddar, sef diflaniad cynefinoedd sy’n gyfoeth o flodau gwylltion yng nghefn gwlad a lleihad dramatig poblogaethau’r gwenyn gwyllt – y mae’r chwilod yn dibynnu arnynt i gwblhau eu cylchoedd bywyd.”
“Gyda chymorth y cyhoedd gallwn ennill gwell dealltwriaeth ynghylch ble y ceir hyd i chwilod olew yng Nghymru, a bydd hyn yn helpu ein hymdrechion i warchod y pryfed anhygoel yma.”
I gofnodi pob Chwilen Olew a welwch, ac i ddysgu mwy am y pryfed rhyfeddol yma, ymwelwch â dalen Helfa Chwilod Olew Buglife.
We need your help to boost our records for oil beetles in Wales.
Now in its fifth year, Buglife’s UK wide oil beetle hunt is helping us to understand and conserve these impressive and intriguing insects. Their large, glossy, black bodies tinted blue or purple, long fat abdomens and stunted wing-cases make them almost unmistakable as they amble along on the ground.
We have five species of oil beetle in the UK, three of which can be found here in Wales.
Now is the ideal time to look for the Black oil beetle (Meloe proscarabaeus), the Violet oil beetle (Meloe violaceus) as well as the rarer Rugged oil beetle (Meloe rugosus). Check footpaths when you are walking through fields, heathland, coastal areas or woodland where they can be found looking for mates and nesting sites, and feeding on path-side flowers.
If you find an oil beetle, take photographs from above which clearly show the top of the thorax (mid-section) to identify the species using our online identification guide. Then submit your record using the recording form on our website. You can submit a record even if you do not know the species.
Your records of oil beetles help us to target conservation efforts to protect important populations of the beetles and the bees they rely on. They also help us make ground-breaking discoveries. Already, the project has led to the discovery of many new sites for oil beetles and the rediscovery of the Mediterranean oil beetle (Meloe mediterraneus) in southern England after we thought it was extinct in the UK! What species will you discover in Wales?
Buglife Cymru Conservation Officer, Clare Dinham, said: “Oil beetles have been hit by the double whammy of flower-rich habitats disappearing from our countryside and a drastic reduction in populations of wild bees – upon which the beetles depend to complete their life cycles.”
“With the public’s help we can get a better understanding of where oil beetles are in Wales, helping our efforts to conserve these incredible insects.”
To record your Oil beetle sightings and to learn more about these fascinating insects visit the UK Beetle Recording Scheme’s Oil Beetle recording page.
In Wales the oil beetle hunt is supported by the Welsh Government.