Mae prosiect RSPB Cymru, Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd, mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Caerdydd a Buglife Cymru, ar fin elwa o £500,000 gan y Gronfa Loteri Fawr
Gall Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd bellach barhau i helpu miloedd o bobl ifanc i dreulio mwy o amser gyda byd natur yng Nghaerdydd tan 2022, diolch i £500,000 gan Raglen Pawb a'i Le y Gronfa Loteri Fawr.
Drwy weithio mewn partneriaeth, bydd RSPB Cymru, Cyngor Dinas Caerdydd a Buglife Cymru yn ysbrydoli ac yn galluogi mwy fyth o bobl ifanc, eu teuluoedd a chymunedau i fwynhau a dangos diddordeb ym mannau gwyrdd Caerdydd am bum mlynedd arall, gan eu hannog i dreulio mwy o amser tu allan yn rheolaidd, yn cael hwyl yn eu mannau gwyrdd lleol.
Ers 2014 mae’r prosiect wedi bod yn brysur yn ennyn diddordeb plant a theuluoedd mewn bywyd gwyllt ledled Caerdydd – o ddolydd blodau gwyllt Fferm y Fforest i ardaloedd wyllt Ynys Echni. Mae wedi darparu sesiynau allgymorth rhad ac am ddim i dros 60% o ysgolion cynradd Caerdydd, gan ddod â 13,600 o blant i gysylltiad â byd natur. Mae wedi helpu cymunedau yn 90% o wardiau Caerdydd i dreulio mwy o amser gyda bywyd gwyllt drwy ddigwyddiadau am ddim i’r teulu, ac wedi gweithio gyda gwirfoddolwyr lleol sydd wedi treulio cymaint â 3,600 awr yn helpu cymunedau i ymwneud â byd natur yn y ddinas. Fodd bynnag, gyda chymaint o gyfoeth o fywyd gwyllt yn y ddinas, mae digon o waith ar ôl i’w wneud – a llond trol o fannau gwyrdd a pharciau i’w harchwilio.
Dywedodd Rheolwr Prosiect Rhoi Cartref i Natur yng Nghaerdydd, Carolyn Robertson: “Diolch i’r Gronfa Loteri Fawr, rydym yn hynod o falch y gallwn yn awr alluogi mwy fyth o deuluoedd ledled y ddinas i ddarganfod y bywyd gwyllt sydd ar eu stepen drws – gan eu hysbrydoli i gymryd camau nid yn unig i gefnogi byd natur, ond i’w drysori am flynyddoedd i ddod.
“Rydym yn gwybod erbyn hyn yn anffodus mai dim ond un plentyn o bob wyth yng Nghymru sydd mewn cysylltiad rhesymol â’r amgylchedd naturiol5 a bod un o bob 14 o rywogaethau yng Nghymru dan fygythiad o ddiflannu'n llwyr6. Yn ddi-os, mae hyn yn rheswm i barhau â'r gwaith hanfodol y mae Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd wedi ei gyflawni.”
Gan dynnu sylw at bwysigrwydd y rhaglen Pawb a'i Le, dywedodd Rona Aldrich, Aelod o Bwyllgor Cymru y Gronfa Loteri Fawr: “Mae rhaglenni fel Pawb a'i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ledled Cymru. Mae'n cyflawni’r addewid a wnaethom i ddefnyddio arian y Loteri Genedlaethol i adfywio ac adfer cymunedau, i fynd i’r afael yn uniongyrchol ag anfanteision ac i gynnig budd sy’n para.”
Mae Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd yn gobeithio ennyn diddordeb 50,000 o blant a'u teuluoedd mewn byd natur yn y ddinas erbyn 2022 a darparu sesiynau allgymorth rhad ac am ddim yn holl ysgolion cynradd Caerdydd, er mwyn helpu disgyblion i ddod o hyd i’r byd natur sydd ar dir eu hysgolion. Mae’r prosiect hefyd yn llunio partneriaeth gyffrous â phrosiect Buglife Cymru, Urban Buzz Caerdydd, er mwyn cynyddu nifer y cynefinoedd sy'n gyfeillgar i bryfed beillio ledled y ddinas.
Dywedodd Swyddog Cadwraeth Cymru Buglife Cymru, Clare Dinham: “Mae Caerdydd yn wych os ydych chi wrth eich bodd â byd natur ac mae ganddi fannau gwyrdd hyfryd. Mae hefyd yn gartref i un o barciau trefol mwyaf Cymru – sy'n ei gwneud hi’n ddinas perffaith i fod yn rhan o brosiect Urban Buzz.
“Rydym mor falch ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd er mwyn parhau i greu cynefinoedd pwysig sy’n gyfeillgar i bryfed beillio. Bydd blodau gwyllt yn bywiogi strydoedd a pharciau’r ddinas gan ddarparu paill a neithdar i’n gwenyn, glöynnod byw, gwyfod a llawer mwy. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at recriwtio mwy o wirfoddolwyr ar gyfer Urban Buzz er mwyn creu mwy fyth o fannau gwyrdd a chyfleoedd cyffrous i bobl leol.”
Dywedodd y Cynghorydd Bob Derbyshire, Aelod o'r Cabinet dros yr Amgylchedd: “Mae Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd yn ffordd wych o annog plant nid yn unig i ymweld â'n parciau a'n mannau agored gwych yn rheolaidd, ond hefyd i'w hystyried yn ardaloedd lle gallant gael hwyl fel teulu. Mae’r prosiect eisoes wedi bod yn hynod lwyddiannus, gan ddenu 77,000 o ymwelwyr i Barc Bute ers iddo ddechrau yn 2014 ac mae wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau am ddim i’r teulu ar hyd a lled y ddinas; felly mae’n newyddion ardderchog, diolch i’r Gronfa Loteri Fawr, y byddem yn gallu helpu hyd yn oed mwy o deuluoedd i gymryd diddordeb yn ein bywyd gwyllt a mwynhau’r manteision o dreulio amser yn yr awyr agored.”
Ar hyn o bryd, mae Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd yn cael ei ariannu gan gwsmeriaid Tesco drwy’r ardoll ar fagiau plastig yng Nghymru tan 31 Mawrth 2017. Bydd y Prosiect yn cael ei ariannu gan y Gronfa Loteri Fawr o 1 Ebrill ymlaen tan 2022. Rydym hefyd yn falch iawn o gadarnhau, diolch i Aldi yn sgil yr ardoll ar fagiau plastig yn y DU, y gall gwaith sesiynau allgymorth y project barhau mewn ysgolion tan 2019.