Mae’n bleser gan Buglife adrodd ein bod wedi darganfod Gwenynen Durio Moron (Andrena nitidiuscula) yng Nghymru am y tro cyntaf erioed! Daeth staff Buglife Cymru o hyd iddi wrth gynnal arolygon gwenyn fel rhan o brosiect ‘Chwilio am Glafrllys’ yn ystod ymweliad diweddar â Gwarchodfa Natur Trwyn Larnog – gwarchodfa Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru (WTSWW) ym Mro Morgannwg, de Cymru.
Mae’r Wenynen Durio Moron yn un o ddim ond tua 180 o rywogaethau o wenyn a geir yng Nghymru ac mae wedi ei henwi am ei chysylltiad cryf gyda blodau Moronen y Môr (Daucus carota), y bydd yn casglu paill oddi arnynt. Nid yw’r wenynen brin hon, oedd wedi ei chyfyngu i siroedd deheuol Lloegr yn y gorffennol, wedi ei gweld yng Nghymru o’r blaen – tan nawr.
Meddai Liam Olds, Swyddog Cadwraeth gyda Buglife Cymru, ddaeth o hyd i’r wenynen “Er bod hyn yn annisgwyl, mae dod o hyd i’r wenynen brin hon yng Nghymru yn gyffrous iawn ac yn ganlyniad gwych i’n prosiect ‘Chwilio am Glafrllys’. Mae’r darganfyddiad hwn yn tanlinellu cyn lleied yr ydym yn ei wybod am rywogaethau gwenyn Cymru a pha mor werthfawr y gall prosiectau a ariennir, fel ein prosiect ‘Chwilio am Glafrllys’, fod. Mae’r prosiect hwn nid yn unig yn gwella ein dealltwriaeth am ddosbarthiad a statws cadwraethol rhai o wenyn prinnaf Cymru sy’n gysylltiedig â chynefinoedd sy’n llawn clafrllys, mae hefyd yn darganfod rhywogaethau na welwyd yng Nghymru erioed o’r blaen. Nawr bod y Wenynen Durio Moron wedi ei darganfod ar Drwyn Larnog, rydym yn gobeithio gweithio gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru i sicrhau bod y wenynen hon yn dal i ffynnu yn y warchodfa natur hardd hon.”
Mae’r prosiect ‘Chwilio am Glafrllys’, a ariennir gan The People’s Postcode Lottery, yn anelu i gynyddu ymwybyddiaeth am rai o rywogaethau gwenyn Cymru, sy’n gysylltiedig â phlanhigion clafrllys, ac sydd dan fwyaf o fygythiad. Trwy’r prosiect, mae safleoedd ledled de Cymru sy’n cynnal cynefinoedd llawn clafrllys yn cael eu chwilio yn y gobaith o ddod o hyd i’r gwenyn hyn. Bydd yr arolygon hyn yn creu cofnodion rhywogaethau a data dosbarthiad wedi eu diweddaru ar gyfer hysbysu rheolaeth ar lawr gwlad a gwella’r rhagolygon ar gyfer y gwenyn gwyllt hyn sydd dan fygythiad. Am fwy o wybodaeth am y prosiect, ymwelwch â gweddalen y prosiect ar https://www.buglife.org.uk/projects/chwilio-am-gafrllys/.