Yn galw ar bob ffotograffydd bywyd gwyllt ifanc! Dyma gyfle'r haf yma iti gymryd rhan yng nghystadleuaeth Buglife Cymru ble gelli ennill gwobrau anhygoel yn cynnwys cyfres o lyfrau ‘Beetle Boy’, copi wedi ei lofnodi o lyfr newydd M.G. Leonard: ‘The Beetle Collector’s Handbook’, gwesty pryfetach ar gyfer dy ysgol, aelodaeth blwyddyn am ddim o Buglife a llawer mwy!
Mae infertebratau’n cynnwys popeth o falwod a phryfed cop, chwilod a gwenyn i fwydod a phryfed lludw, gwyfynod a nadroedd miltroed. Cei hyd iddyn nhw mewn llawer o wahanol fannau, yn cynnwys yr ardd gefn, ar dir yr ysgol ac yn y parc lleol.
Sut i gystadlu: E-bostia dy luniau digidol at
[email protected], gyda dy enw, oed, tref ac ysgol. Galli anfon nifer o luniau atom, ond dylai pob e-bost fod yn llai na 6MB o faint.
Dyddiad cau: Dydd Gwener 14eg Medi 2018 a chyhoeddir enw’r pedwar enillydd ar 5ed Hydref.
Mae’r gystadleuaeth yn agored i blant rhwng 7 – 11 oed, a dylent ofyn am ganiatâd rhiant neu warcheidwad cyn cystadlu.
Caiff yr enillwyr eu dethol gan Buglife ac MG Leonard, awdur ‘ Beetle Boy’. Bydd yr enillwyr yn derbyn gwesty gwenyn ar gyfer eu hysgol, copi wedi ei fframio o’u llun ac aelodaeth blwyddyn am ddim o Buglife. Yn ogystal, bydd enillydd y wobr 1af yn derbyn trioleg o lyfrau ‘Beetle Boy’ a chopi o’r teitl newydd ‘The Beetle Collector’s Handbook’.
Cysylltwch â Clare Dinham os oes gennych unrhyw ymholiadau, trwy e-bost at
[email protected] neu dros y ffôn ar 02922 405604
Mae Buglife yn cadw’r hawl i ddefnyddio unrhyw luniau a anfonir i’r gystadleuaeth mewn arddangosfeydd a chyhoeddiadau anfasnachol. Mae’r enillwyr yn cytuno i’w ffotograff, enw ac enw eu hysgol gael eu defnyddio mewn unrhyw gyhoeddusrwydd.