Mae Buglife Cymru wedi derbyn grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i drosglwyddo prosiect treftadaeth cyffrous – B-Lines Castell-nedd Port Talbot. Yn ystod y prosiect tair blynedd o hyd hwn, byddwn yn gweithio’n agos gyda chymunedau ac ysgolion lleol, a phartneriaid yn cynnwys Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y bwrdd iechyd lleol, cymdeithasau tai, cyrff anllywodraethol a Phrifysgol Abertawe i adfer a chreu lleiniau gwyrddion hygyrch, llawn blodau gwyllt ledled y sir er budd pobl a pheillwyr.
Bydd prosiect B-Lines Castell-nedd Port Talbot yn adfer a chyfoethogi 40 hectar o safleoedd sy’n agored i’r cyhoedd fydd o fudd i beillwyr fel gwenyn, cacwn meirch, glöynnod byw a gwyfynod, a’r bobl sy’n byw a gweithio yma ac sy’n ymweld â’r ardal. Yn ogystal, byddwn yn ysbrydoli cyfoethogi 20 hectar arall o gynefin peillwyr trwy hyfforddi ac ysgogi eraill i ymuno â ni i weithredu, gan greu gwaddol parhaol i’r ardal.
Bydd grwpiau cymunedol, ysgolion a thrigolion lleol yn cael eu gwahodd hefyd i gymryd rhan yn y prosiect trwy nifer o ddigwyddiadau addysgiadol, hwyliog yn cynnwys diwrnodau creu cynefinoedd, teithiau pryfetach a gweithdai arolygu ac adnabod peillwyr. Bydd y cynefinoedd gwell, yn y pen draw, yn arwain at ecosystemau ymarferol, iachach er budd bywyd gwyllt, yn enwedig pryfed peillio, yn ogystal â darparu cyfoeth o fuddiannau i bobl hefyd.
Gan gyfeirio at y dyfarniad, meddai Emily Shaw, Swyddog Cadwraeth Buglife Cymru: “Ry’n ni wrth ein bodd inni dderbyn y cymorth yma diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Bydd y prosiect B-Lines yn rhoi cyfle cyffrous i gymunedau lleol a phartneriaid weithio gyda’i gilydd i helpu i gefnogi ein poblogaethau bregus o bryfed peillio. Trwy sefydlu rhwydwaith o gynefinoedd llawn blodau gwyllt hanfodol ledled y sir, gallwn ddod â grŵn yn ôl i gefn gwlad a’n trefi”.
Meddai Rose Revera, Cydlynydd Partneriaeth Natur CNPT; “Mae Partneriaeth Natur Castell-nedd Port Talbot yn falch i gydweithio gyda a chefnogi Buglife gyda’u Prosiect B-Lines CNPT. Mae CNPT yn gartref i beillwyr prin fel y gardwenynen feinlais a phili-pala y Glesyn Bach, a bydd y prosiect hwn o fudd mawr, gan wella cynefinoedd a chysylltedd ar gyfer natur CNPT, yn ogystal â rhoi cyfle i bobl leol helpu ein bywyd gwyllt”.
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:
“Mae’r Loteri Genedlaethol yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi pobl, prosiectau a chymunedau yn ystod y cyfnod heriol hwn a diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae hyd at £600 miliwn wedi ei ryddhau i gefnogi cymunedau ar hyd a lled y DU yn ystod yr argyfwng Coronafeirws. Trwy chwarae’r Loteri Genedlaethol, rydych yn gwneud cyfraniad anhygoel i’r ymateb cenedlaethol i wrthsefyll effaith Covid-19 ar gymunedau lleol ledled y DU.”