Mudo Pryfed (Rhan 1)

Tuesday 22nd October 2024

…Ymunwch ag Sarah Hawkes, Swyddog Prosiect Isogenus nebucula Natur am Byth Buglife, yn ein blog diweddaraf. (view this page in English)

Pa bryfed sy’n mudo?

Gloÿnnod byw a gwyfynod: Mae gloÿnnod byw y fantell dramor (Vanessa cardui) a glöyn y llaethlys (Danaus plexippus) yn mudo, felly hefyd y fantell goch Vanessa atlanta).Beth am y llwydfelyn (Colias croceus) neu’r gwyn bach, y gwyn mawr a’r gwyn gwythïen wen, (rhywogaeth Pieris)? Maen nhw i gyd yn fudwyr pellter hir. Ymysg y gwyfynod mae’r gem fforch arian (Autographa gamma); a wnaeth unwaith dyrru i Stade de Paris yn ystod rownd derfynol cwpan Ewro 2016 pan oedd Ronaldo yn chwarae.  Ond mae llawer mwy yn gwneud teithiau hir.  Yn Ewrop maent yn cynnwys y dyfrlliw brwyn (Nomophila noctuella), a gwalch-wyfyn y benglog (Acherontia atropos), gwalch-wyfyn taglys (Agrius convolvuli) a llawer o rai eraill.

Chwilod: Mae llai o rywogaethau chwilod yn mudo, ond mae rhai yn gwneud. Fodd bynnag, mae croesi’r môr yn heriol i chwilod. Serch hynny, mae’r fuwch goch gota saith smotyn (Coccinella septempunctata) yn cyrraedd arfordiroedd deheuol Ewrop a’r DU bob haf mewn niferoedd amrywiol sy’n cael eu heffeithio’n aml gan y tywydd ar y môr.

Cacwn: Nid yw cacwn, cyn belled ag y gwyddom, yn deithwyr pellter hir ond mae tystiolaeth gref o ymddygiad gwasgaru a rhyw fath o gyn-fudo ymhlith y gacynen cynffon lwydfelyn (Bombus terrestris) ar draws Môr y Gogledd o’r DU ac yn glanio ar arfordir yr Iseldiroedd yn ystod blynyddoedd o dwf poblogaeth ymhellach i’r gogledd a’r dwyrain.

Gweision y neidr: Yn enwog, mae gwas neidr y gleidiwr crwydrol (Pantala flavescens) yn teithio pellteroedd aruthrol – yn ymfudo bob blwyddyn o’r Himalayas i ddwyrain Affrica – gan groesi Cefnfor India!

Pryfed: Dyma rai o’r ymfudwyr hynotaf oll.  Mae’r niferoedd enfawr sy’n symud ar draws cyfandiroedd bron yn anhygoel. Bydd pryfed hofran fel y pry hofran marmalêd cyfarwydd (Episyrphus baleatus), tua un centimetr o hyd, yn cychwyn tua’r de yn yr hydref ac, mewn un siwrnai,,ond yn aros i gael byrbryd yn unig ar hyd y ffordd, yn mynd yn syth i’w tiroedd gaeafu o amgylch Môr y Canoldir a thu hwnt. Ond nid pryfed hofran yw’r ymfudwyr ‘hunan-bweru’ lleiaf hyd yn oed.  Mae yna rai pryfed gwair bach (Chloropidae) dim ond un neu ddau o filimetrau o hyd sydd hefyd yn hedfan i’r de o’n glannau yn y DU.

Lesser Emperor Dragonflies (Anax parthenope) setting off from the southern coast of Spain, near Malaga, across the Mediterranean to Morocco © Will Hawkes

A yw pryfed mudol wedi’u ‘hunan-bweru’, mewn gwirionedd?

Mae’n iawn i gwestiynu hyn oherwydd ‘does bosibl bod pryfyn mor fach ar drugaredd y gwynt .’  Wel, mae’r gwyntoedd cywir yn bwysig, ond nid teithiau hap a damwain ar drugaredd tynged mo’u hediadau ond teithiau bwriadol, rheolaidd yn aml iawn yng nghwmni llawer o rai eraill o’r un rhywogaeth. Mae’r teithiau trychfilod hyn yn debyg i’r mudo adar adnabyddus ac mae adar yn aml yn teithio gyda phryfed, gan eu defnyddio fel rhyw fath o focs bwyd teithiol.

Felly, gan ystyried yr arfer hwn o focs bwyd, pam mae pryfed yn cymryd y risg o daith hir?

Mae mudo yn ffordd ddefnyddiol o roi opsiynau i’ch rhywogaeth oroesi trwy gyfnod anodd. Mewn gwirionedd, mae llawer o bryfed mudol (fel pryfed hofran Eristalis) yn defnyddio mudo (i ddianc rhag gaeaf caled posibl) ac aros yn llonydd (i wneud y mwyaf o’u siawns o gael y blaen os bydd gaeaf mwyn).  Os yw’r rhai sy’n aros adref yn colli eu gambl a’i bod yn aeaf caled, yna mae cael poblogaeth a fu’n gaeafu mewn tiroedd cynhesach, gwyrddach yn cyfiawnhau’r daith fentrus. Efallai y gwelwch chi boblogaethau cartref pryfed hofran Eristalis yn gaeafu mewn holltau o amgylch cegau ogofâu a mannau tebyg yn ystod misoedd y gaeaf.

Llwybrau hedfan

Globe Skimmer (Pantala flavescens) migrating through the Maldives © Will Hawkes

Mae llawer o ‘lwybrau hedfan’ i’r de a llawer o lwybrau tua’r gogledd. Yn wir, o amgylch y blaned gyfan mae mudo pryfed yn digwydd.  Mae glöyn y llaethlys gogledd America yn adnabyddus, ond hefyd mae pryfed hofran ac eraill yn symud i’r gogledd a’r de ar hyd arfordir dwyreiniol Canada ac America.

Un o’r teithiau mwyaf rhyfeddol yw llwybr hedfan hynod hir gwas neidr y gleidiwr crwydrol.  Mae’r creadur hardd hwn yn hedfan (dyma un o’i lwybrau – mae mwy!) i’r de o o leiaf mynyddoedd yr Himalayas, ymlaen ar draws India, i ynysoedd y Maldives ac yna’n gwyro i’r dde i ddwyrain Affrica lle mae ei ddyfodiad yn destun llawenydd, gan ragweld dyfodiad y glaw.

Pam?  Wel, mae’n debyg mai glaw’r monsŵn ac awydd i ddianc rhag ysglyfaethu yw’r prif yrwyr. Mae gwas neidr y gleidiwr crwydrol wedi addasu ei gylch bywyd i’r llwybr hwn er mwyn atal ysglyfaethwyr rhag bwyta ei ifanc. Mae cyfnod larfa gwas y neidr hwn yn llawer byrrach nag arfer gwas y neidr arferol o dreulio blynyddoedd fel larfa- yn byw yn y dŵr.  Mae ifanc gwas neidr y gleidiwr crwydrol yn mynd o wy i oedolyn mewn wythnosau. Mae hyn yn ei alluogi i fanteisio ar ysglyfaethwyr-pyllau monsŵn dŵr croyw sy’n sychu ar ôl i’r glaw fynd heibio.

Felly, ymlaen at graidd y broblem sy’n dod i’r amlwg i’r byd.

Mae pryfed mudol yn symud i’r gogledd a’r de, i’r dwyrain ac i’r gorllewin, fel bob amser, ond mewn llai o niferoedd.  Mae biliynau o bryfed yn cyrraedd y DU bob blwyddyn a biliynau’n gadael, ond 50 mlynedd yn ôl pan sylwodd y Lacks ar y mudo, roedd cannoedd o biliynau.

Wrth iddynt groesi Ewrop, mae pryfed sy’n ymfudo yn cael trafferth dod o hyd i gynefin i fwydo a bridio ynddo. Prin yw’r cynefinoedd a oedd unwaith yn doreithiog a chysylltiedig. Mae mwy o dai, ffatrïoedd, mwy o aer a dŵr llygredig, mwy o blaladdwyr a chwynladdwyr mewn gerddi a ffermydd yn golygu y bydd llai o bryfed yn cyrraedd yr holl ffordd i’r gogledd ac mae’r cylchoedd o faetholion, peillio, a chydbwysedd bioamrywiaeth (fel, o’n safbwynt dynol ni, bwyta pryfaid gleision cyn i’r niferoedd fynd y tu hwnt i reolaeth) yn lleihau. Wrth i gynefinoedd ddod yn fwy datgysylltiedig, amharir ar gylchred trosglwyddo maetholion i’r tir, mae ein pryfed a’n ffawna pridd yn llai niferus, ac yn llai amrywiol ac mae’r natur y mae pob rhywogaeth yn dibynnu arni yn dlotach.

Sut mae adfywio’r ecosystem hollbwysig hon?

Gallwn adfer y cynefinoedd sydd eu hangen ar bryfed i oroesi a ffynnu. Gallwn ailgysylltu’r cynefinoedd hyn ar raddfa dirwedd, ar raddfa gyfandirol, fel y gall pryfed symud yn rhydd ar draws tirfasau enfawr wrth iddynt fudo’n flynyddol.  Un ffordd o wneud hyn yw trwy fenter Blines Buglife – sy’n ymwneud â chysylltu cynefinoedd ar gyfer pryfed peillio a bywyd gwyllt arall: buglife.org.uk/our-work/b-lines/

Gallwn adfer natur, ond mae angen inni fod yn eofn, ac mae angen inni weithredu yn awr.

Darllenwch Rhan 2, Stori am fudo allan o Gymru, Wythnos nesaf.


Main Image Credit: Migration over the Pyrenees © Will Hawkes