Dod o hyd I Sally; y blog DNA

Wednesday 21st August 2024

…Ymunwch ag Sarah Hawkes, Swyddog Prosiect Isogenus nebucula Natur am Byth Buglife, yn ein blog diweddaraf. (view this page in English)

Mae pryf y cerrig Isogenus nubecula yn fwystfil cyfrinachol sy’n treulio mwy na 90% o’i fywyd ar waelod afonydd y DU yn rhan ddyfnaf y sianel.  O leiaf, arferai wneud hynny; yn y DU, canfuwyd y pryf cerrig hwn mewn afonydd mawr ledled Cymru a Lloegr. Erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif, dim ond mewn un afon yn y DU y gellid ei ganfod, sef afon Dyfrdwy yng Nghymru, a bellach mae wedi’i labelu fel bod mewn perygl difrifol gan yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur.

Eleni, yn ystod yr arolwg ‘cicsamplu’ gan John ac Ollie Davy Bowker a gomisiynwyd gan Buglife, roedd yr afon yn arbennig o ddwfn yn dilyn gaeaf o law a ddechreuodd ym mis Tachwedd ac a oedd yn parhau trwy fis Mawrth.  Cafodd yr arolwg ei ohirio wrth i’r glaw barhau i ddod ac wrth i lefelau dŵr barhau’n uchel. Mae amodau mewn afon gyda lefel dŵr uchel sy’n llifo’n gyflym iawn yn llawer rhy beryglus i weithio ynddynt, hyd yn oed pe bai John wedi gallu cadw ei ben uwchben y dŵr, cymryd samplau, a sefyll yn erbyn pwysau llif y dŵr.  Hyd yn oed trwy addasu’r lleoliadau samplu i’r amodau, ni ddaeth yr arolwg i ben tan 17 Ebrill yn hytrach na diwedd mis Mawrth fel y cynlluniwyd.

Mae prosiect Buglife i dynnu sylw at gyflwr pryf y cerrig Isogenus nubecula yn un o‘r rhaglenni Natur am Byth ledled Cymru sydd â’r nod o godi proffil natur a sôn am y rhywogaethau anhygoel sydd gennym, llawer ohonynt yn brin ac mewn perygl fel y pryf cerrig bychan hwn, sy’n gwario dim ond mis allan o ddŵr fel oedolyn a gweddill ei gylch bywyd blwyddyn o dan y dŵr fel nymff (y ffurf sydd arno pan fo‘n ifanc).  Eleni, wrth weithio o amgylch y tywydd anodd a’r perygl cyson y byddai ein arolygwr yn cael ei gymryd i ffwrdd gan yr afon (roedd yn rhaid iddo gael ei glymu â rhaff i’r lan rhag ofn), daethom o hyd i nymffau mewn tri safle ac, ychydig yn ddiweddarach, tystiolaeth o oedolion ym mhob un o’r safleoedd hynny.  Ond mae’n bwysig hefyd darganfod a oes yna boblogaethau llai mewn mannau eraill yn yr afon na welwyd, a hefyd darganfod beth sy’n gwneud y rhannau hynny o’r afon yn gartref da i’r pryf cerrig hwn.

Er mwyn ymchwilio i’r hyn sy’n gwneud afon yn addas, cynhaliodd Hannah a Joe o Sŵ Caer brofion ansawdd dŵr manwl ym mhob un o’r 12 o safleoedd arolwg, tra bu John yn casglu data afon i safon CNC i’w gymharu ag afonydd eraill, a defnyddiodd sgop dŵr i syllu ar waelod yr afon ac i edrych ar yr is-haen.

Serch hynny, a wnaethom ddod o hyd i bryf y cerrig Isogenus nubecula ble bynnag yr oedd yn byw?

Nid ydym yn gwybod, felly gyda chymorth Dr Alessia Bani o Brifysgol Derby, fe wnaethom samplu pob un o’r 12 o safleoedd cicsamplu i gael tystiolaeth yn y dŵr o DNA’r pryf cerrig hwn.

Sut y gwneir hyn?  Wel, gan ddechrau ar y dechrau gyda’r darn hawdd, daeth Alessia i lawr i roi arddangosiad i ni o’r weithdrefn angenrheidiol.  Dysgon ni sut i sicrhau bod y samplau’n cael eu casglu’n rhydd o halogiad ac i samplu tri litr llawn o ddŵr fesul safle.  Erbyn hynny, roedd hi’n hwyr yn y tymor a byddai’r pryf cerrig yn symud tuag at y lan i ddod allan a dod yn oedolyn.  Nid hwn oedd y cynllun gwreiddiol, ond mewn ffordd roedd yn ddefnyddiol, oherwydd po fwyaf o weithgarwch, y mwyaf o DNA sy’n cael ei ddiosg a’r mwyaf tebygol ydym o godi rhywfaint o’r DNA hwnnw yn ein sampl.  Serch hynny, mae’n afon fawr ac mae un litr yn ddarn bach iawn o’r afon!

Ar ôl cael ein litr, roedd yn rhaid i bob samplwr wedyn wthio’r dŵr drwy hidlydd arbennig a fyddai’n casglu’r DNA a gronynnau bach eraill gan ddefnyddio chwistrell, a oedd yn mynd yn anoddach ac yn anoddach i’w wneud wrth i fwy o’r litr gael ei hidlo ac wrth i’r hidlydd ei hun fynd yn dagedig.Edrychwch ar yr ymdrech ar wyneb Anna wrth iddi wthio!  A bod yn deg i Anna, sy’n un o’n cynorthwywyr gwirfoddol gyda’r samplu eDNA, mae’r llun hwn o’r safle samplu gwaethaf, mwyaf tywyll.

Gyda phob safle wedi’i samplu a’r hidlyddion wedi’u selio a’u rhoi yn y rhewgell, roedd yn rhaid iddynt nawr gyrraedd Alessia ym Mhrifysgol Derby, dwy awr i ffwrdd. Defnyddiais rewgell fach wedi’i phlygio i mewn i’r car fel y gallai’r samplau deithio ar -20°C er bod y diwrnod yn boeth iawn.  Aethom â nhw’n ddiogel i rewgell y labordy yn y brifysgol i’w storio ar gyfer pryd y gellir eu prosesu a’u dadansoddi.

Nesaf, bydd angen ‘coginio ac ysgwyd’ y samplau a’u cynhesu hyd at 56°C dros 24 awr.  Unwaith y gwnaed hyn, gellir paratoi’r samplau i’w dadansoddi gan ddefnyddio cemegion i godi unrhyw DNA oddi ar yr hidlyddion a chael pob sampl yn barod ar gyfer y dadansoddiad datgelu terfynol.  Wrth gwrs, mae hyn i gyd yn cymryd dyddiau o amser labordy ac mae’n rhaid ei amserlennu i gyd-fynd â chyfnodau tawel yn y brifysgol.  Disgwyliwn i’n samplau fod yn barod ddiwedd yr haf.

Yn y cyfamser, cefais gipolwg ar y dull a ddefnyddir i baratoi’r hylif sy’n cynnwys y DNA gwerthfawr, gobeithio.

Roedd ymweld â’r labordai yn Derby yn gyffrous iawn ynddo’i hun. Gwelais y labordai pryfed lle mae gwaith fforensig weithiau’n cael ei wneud, yr acwaria o ddŵr sy’n cael eu defnyddio ar gyfer ystod o arbrofion ar forwellt i ddarganfod pa rywogaethau sy’n gallu goddef pa amodau (prosiect Natur am Byth arall o Ynys Môn), a mwy o acwaria gyda chwrelau ynddynt a ddefnyddir i edrych ar sut mae cwrelau yn cydlynu eu silio a beth sy’n ysgogi hynny, ond hefyd pa gwrelau sy’n gallu gwrthsefyll y tymhereddau môr uchel y maent bellach yn agored iddynt er mwyn bod â’r potensial i helpu riffiau i adfer. Mae’r rhain i gyd yn ymwneud â deall sut y bydd ein hinsawdd newidiol yn effeithio ar y byd naturiol.

Nawr rydym yn aros am ganlyniadau ein samplu eDNA. Hyd nes eu bod yn barod, nid ydym yn gwybod a fydd samplu eDNA yn gweithio i ni a beth y byddwn yn ei ddarganfod.  Mae cymaint o obaith yn dibynnu ar hyn.

Os byddwn yn dod o hyd i DNA pryfed y cerrig Isogenus nubecula ym mhob un o’r safleoedd lle gwyddys bod Isogenus, yna mae’n debyg y gellir dibynnu ar unrhyw ganlyniadau cadarnhaol eraill, ac mae hwn yn arf y gallwn ei ddefnyddio yn y dyfodol.  Rydyn ni’n gwybod ei fod yn gweithio i rywogaethau eraill, fel madfallod dŵr cribog, er enghraifft, ond mae yna bryderon: mae’n bosibl ein bod wedi bod yn rhy hwyr gyda’r samplu oherwydd yr oedi nas rhagwelwyd ac efallai fod yr oedolion eisoes wedi ymddangos.A fyddwn ni wedi samplu digon? A wnaethom samplu yn ddigon da?!

Felly, gan gadw fy mysedd wedi’u croesi’n gadarn, mae’n rhaid i mi orffen y blog yma heb i ni wybod yr atebion!