…Ymunwch ag Sarah Hawkes, Swyddog Prosiect Isogenus nebucula Natur am Byth Buglife, yn ein blog diweddaraf.
Arolygwyr: John Davy-Bowker ac Olly Davy Bowker
Mae’r arolwg o wely’r afon bellach wedi’i gwblhau ar gyfer 2024, er gwaethaf yr amodau erchyll yn gynnar yn y flwyddyn a wnaeth ein gohirio bron i dair wythnos tra oedd y glaw yn dal i fwrw ac roedd afon Dyfrdwy yn parhau’n uchel.Mor uchel, mewn gwirionedd, fel y byddai John Davy-Bowker, ein harolygwr yn yr afon, wedi bod dros ei ben pe byddai wedi mynd i mewn, hyd yn oed pe byddai wedi gallu cadw ei draed ar waelod yr afon yn y dyfroedd cyflym.
Hyd yn oed gyda’r oedi a’r aros i’r lefelau fynd i lawr, defnyddiwyd y llinellau diogelwch llawer, gwisgodd John y wisg sych yn barhaol, ac roedd rhaid ymweld â llawer o safleoedd sawl gwaith i adolygu lefelau. Arafwyd y gwaith hefyd gan yr amodau llif cyflym anodd.Fodd bynnag, ar gyfer y ddau safle olaf, daeth yr haul allan ac roedd y tywydd yn odidog, os yn oer.
Ar y lan, ar wahân i ofalu am y llinellau diogelwch, gwnaeth Olly gadw pethau i fynd gyda’i waith adnabod a thrwy sicrhau bod yr offer i gyd wrth law. Helpodd tîm Sŵ Caer (Hannah Thomas, Joe Hutchins a Jamie Keith) nid yn unig wrth gyflawni’r gwaith arolygu ond wrth samplu dŵr manwl ym mhob safle.
Roedd yr is-haen ym mhob safle yn amrywio cryn dipyn, o raean tywodlyd bach i flociau mawr (roedd yr olaf yn gwneud cicsamplu yn eithaf anaddawol, er unwaith roedd y samplau wedi dod i’r lan daethom o hyd i lawer o fywyd).
Canfuom niferoedd da o rywogaethau sy’n ffynhonnellau bwyd pwysig ar gyfer Isogenus mewn llawer o safleoedd (Rithrogena semicolorata). Daeth rhai rhywogaethau ychwanegol diddorol i’r lan yn y rhwydi sampl, gan gynnwys ychydig o rywogaethau o elenod, llysywod pendoll y nant, pennau lletwad, a rhai larfâu pryfed cadis hyfryd heb blisg.
Seren y rhywogaethau nad oeddent yn darged, fodd bynnag, oedd darganfyddiad maint da o larfâu’r gwybedyn Mai melyn (Potomanthus luteus) mewn dau safle, a gadarnhaodd bresenoldeb y rhywogaeth hon, a oedd hyd hynny ond wedi cael ei darganfod yn y de yn afon Gwy ac afon Wysg, yn afon Dyfrdwy.
Ond y peth gorau oedd y daethom o hyd i’n targed, pryf y cerrig Isogenus nubecula, mewn tri safle (gan gynnwys un safle newydd) mewn niferoedd da. Dyma’r newyddion gorau – roedden ni wedi meddwl sut y gallai unrhyw beth fod wedi goroesi yn y misoedd diddarfod hynny o law trwm a llifoedd afon gwyllt!Yn amlwg, fodd bynnag, mae’r pryf cerrig hwn a’i gymdeithion ar wely’r afon yn wydn dros ben.
All Image Credits: Sarah Hawkes. From left to right: Pic 1 – Scarce Yellow Sally (Isogenus nebucula) taking a look; Pic 2 – Team Overton Weir; Pic 3 – Caseless caddis Rhyacophila sp.; Pic 4 – JDB and Olly DB surverying for Isogenus at Erbistock; Pic 5 – Olive Uprights (Rithrogena sp.) larvae; Pic 6 – Kick sampling at Froncysyllte; Pic 7 – Yellow Mayfly larva (Potomanthus luteus) in a teaspoon