
Tra allan yn cynnal arolygon ar y Chwilen Olew Wddf-fyr (Meloe brevicollis) ar Faes Tanio Castellmartin yn Sir Benfro fis Mehefin y llynedd, cofnododd tîm o brosiect Natur Am Byth dan arweiniad Liam Olds, Swyddog Cadwraeth Buglife Cymru, rŵn gweithgarwch anarferol o amgylch hen getris oedd wedi’u gadael ar lawr yn y maes tanio arfordirol.
Mae’r Saerwenynen Eddi Aur (Osmia aurulenta) yn wenynen arbenigol sy’n nythu mewn cregyn malwod. Yn aml caiff ei chyfyngu gan niferoedd ac ansawdd y cregyn malwod sydd ar gael, fodd bynnag, ar Faes Tanio Castellmartin, mae’n ymddangos eu bod wedi cael hyd i gartref amgen annhebygol.
Arsylwyd Saerwenyn Eddi Aur benywaidd yn mynd i mewn ac allan o hen getris oedd wedi’u defnyddio yn cario paill. Roedd mynedfa rhai o’r cetris wedi eu plygio eisoes gyda mastig dail (dail wedi’u cnoi), y mae’r gwenyn yn ei ddefnyddio i gau’r fynedfa i’w nythod, gan awgrymu bod y gwenyn yn magu eu rhai bach yn y cetris hyn.
Roedd yn ymddangos fel eu bod hyd yn oed yn dewis y cetris hyn fel lleoliad i nythu, a hynny’n hytrach na’r dewis mwy arferol o gregyn malwod gwag.
Saerwenynen Eddi Aur (Osmia aurulenta) © Liam Olds
Hen getris © Liam Olds
Faes Tanio Castellmartin © Liam Olds
Mae’r arsylwad hwn yn arddangos y gall gwenyn sydd ag arferion nythu arbenigol, fel y Saerwenynen Eddi Aur, gymryd mantais o leoliadau nythu artiffisial pan maent ar gael iddynt a bod y gwenyn hyn y fwy hyblyg nag oeddem wedi ei feddwl.
Diolch i dîm yr arolwg sef Liam, Anna, Cath a Cathy am rannu’r darganfyddiad hwn ac i’r Weinyddiaeth Amddiffyn am eu diddordeb parhaus yn ein gwaith.
Meddai Liam Olds, Swyddog Cadwraeth Buglife, “Mae’n rhyfeddol bod gwenynen arbenigol o’r fath sy’n nythu mewn cregyn malwod yn cymryd mantais o argaeledd hen getris pres ar Faes Tanio Castellmartin, ac yn ymddangos fel eu bod hyd yn oed yn dewis eu dethol dros y cregyn malwod gwag sy’n fwy arferol. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn i fonitro’r boblogaeth hon dros y blynyddoedd nesaf i ddeall yn well sut y mae’r gwenyn hyn wedi ymaddasu i ddefnyddio lleoliad nythu artiffisial o’r fath.”
Rhannodd y Weinyddiaeth Amddiffyn y neges hon, “Tra bo’n personél yn ceisio clirio eu hen getris ar ôl sesiynau hyfforddi, mae’n anochel, o ystyried nifer y rowndiau gaiff eu tanio o safleoedd niferus, y caiff rhai eu methu.”
Os ydych chi’n bwriadu ymweld ag Ardal Hyfforddi Castellmartin, cofiwch lynu at y camau syml isod:
- Gwiriwch yr amserau tanio byw ar GOV.UK.
- Cadwch at y llwybrau cyhoeddus, llwybrau ceffylau, cilffyrdd a’r Hawliau Tramwy Cyhoeddus.
- Talwch sylw i’r baneri coch, y goleuadau coch a’r arwyddion sy’n nodi bod mynediad wedi’i wahardd.
- Peidiwch fyth cyffwrdd sbwriel milwrol ar y llawr. Hysbyswch yr awdurdodau er mwyn iddynt ei gasglu a’i waredu’n ddiogel.
- Cadwch eich cŵn dan reolaeth, yn eich golwg a chodwch eu baw.
Mae’r erthygl lawn, ‘An unconventional home for Osmia aurulenta (Hymenoptera: Megachilidae)’, gan Liam Olds ar gael yma.
I ddysgu mwy am y Saerwenynen Eddi Aur, ewch i’n Cyfeirlyfr Pryfed.
Cynhaliwyd yr arolwg hwn fel rhan o brosiect ‘Natur am Byth!’, rhaglen gadwraeth flaenllaw Cymru sy’n adfer poblogaethau allweddol o rywogaethau sydd mewn perygl ac sy’n cysylltu cymunedau Cymru gyda’u treftadaeth naturiol.
Mae’r prosiect yn dwyn ynghyd Buglife, Plantlife, Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid, Yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod, Y Gymdeithas Cadwraeth Forol, Yr Ymddiriedolaeth Gwarchod Cacwn, Cadwraeth Glöynnod Byw, Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB), Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Ariennir ‘Natur am Byth!’ gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a nifer o ymddiriedolaethau elusennol, sefydliadau a chyfranwyr corfforaethol yn cynnwys Sefydliad Esmée Fairbairn ac Ymddiriedolaeth Elusennol Banister, a chymorth sylweddol gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).
Main Image Credit: Roedd mynedfa rhai o’r cetris wedi eu plygio eisoes gyda mastig dail (dail wedi’u cnoi) © Liam Olds